LenaLLOYDLLOYD - Dymuna teulu'r diweddar LENA LLOYD, Cerrig Mawr, Llanystumdwy a Minffordd, Penrhyndeudraeth cyn hynny, ddatgan eu gwerthfawrogiad a'u diolch cynnes am bob arwydd o gydymdeimlad yn gardiau, llythyrau a blodau a dderbyniwyd yn ystod eu profedigaeth yn ddiweddar. Diolch hefyd i staff Bryn Awelon, Cricieth a Hafod-y-Gest, Porthmadog am eu gofal arbennig ohoni dros y blynyddoedd ac am y rhoddion hael a dderbyniwyd i Gapel Peniel gan ffrindiau a chydnabod. Diolch i'r gweinidogion, Y Parchedigion Gareth Edwards ac R.E. Hughes am eu gwasanaeth amserol ac i Henry Jones a'i Feibion am eu trefniadau trylwyr a phroffesiynol.
Keep me informed of updates